Owen Hughes
Owen Hughes
Owen Hughes ‘Glascoed’
“Heuwr”
(Detholiad o awdl-bryddest, Enillydd y Gadair, Eisteddfod Y Wladfa, 1926)
O bur rawn bore einioes
Mwynheir y wledd ddiwedd oes.
Os heb hau neges bywyd
Yn y llanc ieuanc o hyd,
Daw ei chwaeth a chnwd o chwyn
O’i ôl fel pla i’w dilyn;
Ei les a esgeulusir,
A thud iach dry’n ddiffaith dir.
Hael y gwae’r ôl hau y gwynt,
Â’r cur o fedi’r corwynt.
Hawdd yw oedi’n ddihyder,
Oriau blwng fed heuwr blêr.
Nid da yw aur i wneud hedd
Heb uno gwreng a bonedd.
Y Glaw
Di-egr groywin y duwiau - o gunnog
Anian ddaw’n ddefnynnau;
A’i ddogn pur e ddwg i’n pau
Rwysg cyfoeth ar wisg hafau.
Y Gwynt
Tyn i f’ymyl tan fwmian - a’i anadl
Dyner fwynha’r egwan;
Os sen a gwyd, sŵn ei gan, -
I’r rhwyfwr gwell yw’r hafan.
Vancouver BC
Mynyddoedd gwargrwm i’w noddi – a gaiff
A gwig yn gob drosti.
Eura’i haul wallt yr heli
A thyr ton tros ei thraed hi.
Drwy’r glaw daw arogleuon – o’i llennyrch
A’i pherllannau ffrwythlon;
Hafan deg ar fin y don
A’r hen a gâr ei hinon.
Nos Bywyd
O’r trwst a’r afar tristaf - yn y bedd
Cyn bo hir y llechaf :
A’i glog oer o glai a gaf
Yn wely fy hun olaf.
Y diweddar Dr Dan Protheroe
(Buddugol yr Eisteddfod Los Angeles Ca
Mai 24-25 1935)
Awdur a llenor o deryll anian
Cerddor a’i goethder yn lleufer llwyfan
Beirniad oedd ddoethor, cywir ei gloriau
Gŵr a ddigwygiodd gôr ac erddygau
Tost fu’r wŷs, - ond erys “Dan” – yn nelfryd
Amerig hefyd fel Cymru gyfan
Owen Hughes, Glascoed
Mai 24, 1935 (llythr at J.W.Jones)
Synnwch gael gair gennyf o Los Angeles. Denais yma i’r Eisteddfod......Ond y syndod mwyaf allan o 15 o gyfansoddiadau anuchel daeth y gwpan aur ragorol i fy rhan hefyd. Credaf i mi ddweyd wrthych mewn llythyr blaenorol i mi fod yn ymgessydd. Dyna’r unig ddau beth y cystadleuaes arnynt. ‘Iestyn’ Maentwrog fy hen athro Ysgol Sul aeth o’r englyn, ac un da ydyw.
Yr oeddd mwyafrif y cystadleuwyr o Gymru. Mae Ieuan Fardd yn ddeall ei fusnes fel beirniad, nid rhaid i neb brydesu am hynny. Daeth yma o San Diego 130 miles, a chefais ei gyfarfod am y tro cyntaf. Yr oedd wedi synnu i mi ennill y gadair a’r gwpan o nifer fawr.
Awst 2 1936 (llythyr at J.W.Jones)
Diolch i’r nefoedd nad oeddwn yn Winnipeg - yr oedd yn 108 a 100 above. Yr oedd ceffylau yn syrthio yn farw ar yr heol yn y trefi, a phobl a chalon wan yn syrthio yr un modd.
Chwef 2 1930
( Ellis Hughes, Niagara Falls, NY at Evan Williams ‘Glyn Myfyr’ )
Dyn dymunol tros ben ydyw Mr Hughes hefyd ac wedi dringo i enwogrwydd yn mysg y beirdd.
Bu Owen Hughes yn fuddugol yn yr eisteddfodau canlynol :
1923 Bangor (Saskatchewan), Pryddest - “Tlysni”, Beirniad Cynonfardd
1924 Toronto, Pryddest - “Pwy yw fy Nghymydog?”
1925 Winnipeg, Awdl - “Nerth Duw”, Beirniad Ieuan Fardd
1925 Edwardsville, PA - Pryddest “Ser y Nen”, Beirniad I.M.Pritchard
1925 Utica, NY - Awdl - “Anadl Einioes”
1926 Utica - Pryddest “Y Bwthyn Adfeiliedig”, Beirniad Pedrog
1926 Y Wladfa - Awdl-Pryddest “Yr Heuwr”, Beirniad Gwili
1927 Utica - Awdl “Y Gwerinwr”, Beirniad Pedrog
1928 Wilkesbarre, PA - Awdl “Concwest y Gorllewin”, Beirniad Bryfdir
1929 Los Angeles - Pryddest “Prydferthwch yr Hwyr”, Beirniad Ioan Eryri
1929 Granville NY - Pryddest Goffa “Y Diweddar Barch. I.W.Morris, Poultney”
Beirniad Ioan Eryri
1935 Los Angeles - Pryddest Goffa “Mrs Moelwyn Williams” (Cwpan aur yn wobr)
Beirniad Ieuan Fardd
1936 San Francisco -Pryddest “Rhamant yr Awyr”, Beirniad Ap Ceiriog
1939 Eisteddfod y Porth Aur - “Ynys Drysor” Beirniad Ap Ceiriog
1940 Los Angeles - Penillion Coffa “Moelwyn”, Beirniad John M Pritchard
Cynonfardd - Y Parch Thomas Edwards (1848 -1927) Archdderwydd America
Ieuan Fardd - Y Parch D.E. Richards, Scranton PA
Pedrog - Y Parch John Owen Williams (1853 -1932) Archdderwydd Cymru 1928-1932
Gwili - John Jenkins (1872 -1936) Archdderwydd Cymru 1932 -1936
Bryfdir - Humphrey Jones, Blaenau Ffestiniog (1867 - 1947)
Ioan Eryri - Evan Morris Jones, Poultney, Vermont
(Gweler ‘Society’ 1926 -1927 am fywgraffiad byr Owen Hughes)